Iau

Iau pren ar wedd o ych

Erthygl yw hon am yr offeryn amaethyddol a elwir yn iau. Am ystyron eraill gweler Iau (gwahaniaethu).

Darn o bren wedi ei wisgo am wddf pâr o anifeiliaid yw iau. Defnyddir yr iau i alluogi anifeiliaid i dynnu llwyth, e.e. aradr, coed, trol, cert, neu i droi pwmp dŵr i ddyfrhau. Pwrpas yr iau yw rhannu'r baich ar draws ysgwyddau'r anifeiliaid.

Defnyddir ieuau ar geffylau weithiau ond ar ychain y'i gwelir amlaf. Defnyddir ychain â chyrn arnynt er mwyn cadw'r iau yn ei le pan fyddant yn arafu, yn cerdded am nôl neu yn gostwng eu pennau.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search